Community Council
Cyngor Cymuned

Mae ardal Dyffryn Clydach yn cynnwys y cymunedau preswyl o Cwrt Herbert, Dyffryn, Highlands, Longford, Mynachlog Nedd a Penshannel. Mae wedi ei leoli yn y cyngor bwrdeistref Castell-Nedd Port Talbot, De Cymru.

Mae’r ardaloedd canolig a gogledd o Dyffryn Clydach yn wledig iawn, gyda tir amaeth a coetir sydd yn amgylchu gwaelod y Mynydd Drummau. Mae’r cyngor cymuned yn edrych ar ol y llwybrau bendigedig yn cynnwys llwybr Y Cwm lle mae’r nant Clydach yn llifo o’r gogledd i’r de.

Mae dau ysgol leol poblogaidd: Neath Abbey Infants’ & Early Years School a Ysgol Gynradd Mynachlog Nedd. Mae’r Neuadd Goffa Dyffryn Clydach yn lle brysyr iawn, a gyda’r chanolfan cymundedol sydd wedi cael ei adnewyddu yn diweddar mae cyfleusterau ardderchog yn Dyffryn Clydach. Mae’r ddau adeilad wedi’w leoli ar The Drive, yn Longford. Mae hefyd cae chware fawr sydd yn addas i blant o bob oedran.

I’r de o Dyffryn Clydach mae parc busnes gyda mynediad dda i’r A465 ac yr M4.

Er bod Dyffryn Clyfach ddim ond yn ardal sydd yn 7km² (2.7 mi sg), mae’r ardal yn llawn hanes. Mae’r rhagfuriau o Fynachlog Nedd Sistersaidd, y Tennant Canal a hefyd y Neath Abbey Ironworks sydd yn enwog drwy’r byd, i gyd o fewn pellter cerdded. Mae yna hefyd siop Tesco sydd uwchben safle mae rhai pobol yn meddwl oedd castell o’r 11fed canrif yn sefyll.

dyffryn-clydach-tapestry-dave-dugay

Tapestri Dyffryn Clydach – Llun gan David Dugay

Mae Tapestri Map Cymuned Dyffryn Clydach yn hyfryd dros ben and yn ganlyniad o brosiect cymunedol a gymerodd dros 18 mis i cwblhau. Diolch i noddiant o Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach ac hefyd gan y Llywodraeth Cymru, roedd y Cynghorydd Alyson Thomas yn edrych ar ôl y prosiect. Roedd dros 70 o gwëydd i gyd o sectorau gwahanol yn y gymuned. Mi gafodd y tapestri, a hefyd paneli sydd yn mynd gyda’r gwaith, ei ddadorchuddio gan Mrs Louisa Davies ym mis Mai, 2011, ar ddiwnod dathlu y gymuned. Mae’r tapestri nawr yn y Neuadd Goffa i pawb i’w weld a’i fwynhau.

Manylion Clerc

Mr Randall Shopland

6 Dulais Close,

Aberdulais,

Neath,

SA10 8HA

Gyrru ebost i'r clerc.

01639 635 787